Fy Addunedau i chi

Read in English

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael ei ethol i gynrychioli’r cyhoedd i sicrhau bod Heddlu De Cymru yn cael ei redeg yn effeithlon ac yn effeithiol. Dyma beth mae hynny’n ei olygu i mi………

Fy nod fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yw lleihau troseddu a chynnal gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon yn ogystal â dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif. Y Comisiynydd yw ‘llais y cyhoedd’ felly rwyf wedi gweithio i sicrhau bod pryderon plismona a diogelwch ein cymunedau amrywiol yn cael eu clywed ac yn cael sylw. Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu sy’n gweithio gyda chi yn eich cymuned leol – ond rwyf wedi gweithio drwy gyfnod o doriadau mawr gan y Ceidwadwyr yng Ngrant yr Heddlu i roi’r adnoddau a’r gefnogaeth iddynt wneud hynny’n effeithiol tra’n cydweithio â chymunedau lleol ac asiantaethau eraill.

Fy addewidion allweddol yw’r rhain …………

  • Atal troseddu, niwed ac ymddygiad gwrthgymdeithasol lle bynnag y bo modd, er mwyn galluogi pobl i fod yn ddiogel ac yn hyderus yn eu cartrefi a’u cymunedau. Mae “cyni” wedi rhoi deng mlynedd anodd i’r heddlu ond rydym wedi diogelu plismona cymdogaeth, yn wahanol i rai Lluoedd yn Lloegr, ac wedi manteisio i’r eithaf ar Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol a ddarparwyd gan ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru.
  • Gweithio gyda’r holl wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol a’r GIG, i fod yn arloesol wrth ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl. Yn ystod blwyddyn COVID-19 rydym wedi dangos yng Nghymru sut y gallwch fod yn arloesol ac uchelgeisiol o hyd wrth wasanaethu ein cymunedau yn y cyfnod anoddaf.
  • Gweithio i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, deall pam mae pethau’n mynd o chwith a gweithio gydag eraill i fynd i’r afael â’r achosion – er enghraifft gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar wreiddiau camddefnyddio sylweddau yn ogystal â mynd i’r afael â’r rhai sy’n ecsbloetio ar bobl sy’n agored i niwed ac yn camfanteisio ar bobl ifanc.
  • Gweithio i wneud y system cyfiawnder troseddol leol yn effeithlon ac yn effeithiol i ddiwallu anghenion dioddefwyr a lleihau aildroseddu. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn gyflymach i ailagor llysoedd yng Nghymru nag mewn rhanbarthau yn Lloegr ac rwy’n falch o fod wedi chwarae rhan mewn dod â sefydliadau at ei gilydd i gyflymu cyfiawnder.
  • Cyfrannu at yr heriau plismona ehangach drwy fodloni’r Gofyniad Plismona Strategol a gweithio gydag eraill yng Nghymru ac yn ehangach. Ni all un asiantaeth ar ei phen ei hun drechu bygythiadau fel Llinellau Sirol (lle mae gangiau mawr y ddinas yn manteisio ar blant a phobl ifanc) a dyna pam mae cydweithredu’n rhedeg fel llinyn euraid drwy fy null gweithredu.
  • Gwario eich arian yn ddoeth ac yn effeithiol, gan weithio gyda’r Prif Gwnstabl i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl. Mae hynny’n ymwneud ag ymateb heddlu o ansawdd uchel ond mae hefyd yn ymwneud ag atal niwed. Er enghraifft, mae Trais a Cham-drin Domestig yn poenydio teuluoedd a chymunedau, felly yn ogystal â darparu gwasanaethau a gweithio gyda mudiadau gwirfoddol i gefnogi dioddefwyr, rwyf wedi cyflwyno rhaglen DRIVE ar draws ein saith ardal awdurdod lleol oherwydd ei bod yn lleihau trais ac yn newid bywydau er gwell.

Ym mhob agwedd ar Blismona, rwy’n credu mewn ymyrraeth gynnar a gweithredu prydlon a chadarnhaol yn seiliedig ar dystiolaeth ac a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng yr heddlu ac asiantaethau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod egwyddorion drwy ddeddfwriaeth i weithio er Lles Cenedlaethau’r Dyfodol ac er nad yw Plismona wedi’i ddatganoli mae hynny’n darparu’r amgylchedd lle gallwn weithio’n lleol drwy’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wella bywydau pobl yn lleol. Ac rwy’n cyfrannu at ddull newydd o ymdrin â Diogelwch Cymunedol ym mhob un o’n hardaloedd Awdurdod lleol.

Nid addewidion etholiadol yn unig yw’r rhain – mae sylwedd y tu ôl i bob un ohonynt. Mae manylion llawn y genhadaeth, y weledigaeth, y gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n darparu sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol ar gael yn y Cynllun Heddlu a Throseddu De Cymru[CAT1]  llawn ac rwyf wedi nodi fy mlaenoriaethau yn fy Natganiad Etholiadol.

Dysgwch fwy am Alun

Dysgwch fwy am bolisïau Alun a’i hanes

Mae tudalen we swyddogol Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yma.

Datganiad ar y cyd gan Alun Michael ac Emma Wools yn dilyn marwolaeth George Floyd

Darganfyddwch beth sydd gan rai o’r bobl sy’n cefnogi Alun i’w ddweud yma.

Cefnogir Alun gan Lafur Cymru a’r Blaid Gydweithredol