Alun Michael yw Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru ers 2012, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi cael ei gydnabod fel un o’r gwasanaethau heddlu sy’n perfformio orau o ran ymateb, ymgysylltu â chymunedau lleol a rhoi pwyslais ar atal troseddu a niwed. Mae wedi amddiffyn plismona yn y gymdogaeth, gan wneud defnydd da o’r Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol sydd wedi’u darparu gan Lywodraeth Lafur Cymru ac mae ei ymrwymiadau wedi’u nodi yn ei Ddatganiad Etholiadol[CAT1] . Dywed Alun “o edrych yn ôl, mae’r rôl yn gwneud synnwyr o’m gyrfa – nad oedd yn sicr yn gwneud synnwyr wrth edrych ymlaen”.
Tra’n tyfu i fyny yng Ngogledd Cymru bu’n weithgar yn y Mudiad Sgowtiaid, gan ddod yn Sgowt Brenhinol, ac yna’r person cyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Aur Dug Caeredin. Ar ôl graddio o Brifysgol Keele ym 1966 daeth yn ohebydd papur newydd gyda’r South Wales Echo a bu’n gwasanaethu fel ysgrifennydd cangen i Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr.
Ym 1971 gadawodd newyddiaduraeth i fod yn weithiwr ieuenctid llawn amser yn Llanrhymni, yna Llanedern – gan weithio wedyn am 10 mlynedd yn ardal Trelái yng Nghaerdydd ac yna yn ardaloedd Dociau Tre-biwt a Grangetown. Bu’n gynghorydd dinas rhwng 1973 a 1989, gan chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gynllunio, ariannu ac ailddatblygu canol dinas Caerdydd. Ef oedd ysgrifennydd cyntaf (gwirfoddol) Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru. Daeth yn ynad ym 1972, gan gadeirio’r Fainc Ieuenctid tan 1987 a gwasanaethu ar Bwyllgor Prawf De Morgannwg.
Yn 1987 cafodd ei ethol yn AS Llafur a Chydweithredol De Caerdydd a Phenarth, gan olynu Jim Callaghan. Fe’i penodwyd wedyn gan Neil Kinnock fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Cymreig, ac yna fe’i penodwyd gan John Smith fel dirprwy Tony Blair mewn Materion Cartref yn 1992 a bu’n gwasanaethu yn yr un rôl gyda Jack Straw tan ddaeth Llywodraeth Lafur i rym yn dilyn etholiad 1997.
Cafodd ei gyfnod cyntaf yn y Senedd ei ddominyddu gan y ddadl dros Forglawdd Bae Caerdydd, ac roedd yn eiriolwr cryf drosto. Ymladdodd hefyd dros greu Tŷ Opera Bae Caerdydd, gan weithredu fel dirprwy gadeirydd yr Ymddiriedolaeth i Nicholas Edwards (yr Arglwydd Crughywel). Yn siomedig pan wrthodwyd y cynigion, roedd yn falch iawn pan lwyddodd y grŵp olynol gyda Chanolfan y Mileniwm, gan gyflawni’r weledigaeth o adeilad a oedd yn estyn allan at bobl ifanc a chymunedau ledled Cymru.
Ym 1997, fel Dirprwy Ysgrifennydd Cartref, llywiodd y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn i’r Llyfr Statud, gan arwain at sefydlu partneriaethau lleihau troseddau lleol, timau troseddau ieuenctid, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Wedi hynny, ymunodd â’r Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac yna daeth yn Brif Weinidog cyntaf Cymru cyn sefyll i lawr a throsglwyddo’r awenau i Rhodri Morgan.
Fel y Gweinidog Gwladol dros Faterion Gwledig o 2001, aeth i’r afael â’r her o ddatrys y mater dadleuol o hela â chŵn, cyflwyno’r Ddeddf Cymdogaethau Glân a gweithredu’r “Hawl i Grwydro”. Yn gefnogwr gydol oes i Barciau Cenedlaethol, dynododd New Forest fel Parc Cenedlaethol a braenaru’r tir ar gyfer dynodiad South Downs. Cyflwynodd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy hynod lwyddiannus fel cronfa bartneriaeth ar gyfer Parciau Cenedlaethol, yn gyntaf yng Nghymru ac yna yn Lloegr.
Ei rôl olaf yn y Llywodraeth oedd y Gweinidog Gwladol dros Ddiwydiant a’r Rhanbarthau, gan hyrwyddo datblygu rhanbarthol a gwaith Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol. Yn ystod Llywyddiaeth Ewrop y DU arweiniodd y ddirprwyaeth i Uwchgynhadledd y Byd ar y Gymdeithas Wybodaeth a hyrwyddodd y cysyniad o “lywodraethu da ar gyfer y Rhyngrwyd”.
Ar ôl gadael y Llywodraeth yn 2006 daeth yn uwch aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder ac yna’r Pwyllgor Materion Cartref, gan gymryd rhan weithredol mewn ymchwiliadau mawr i ‘Ail-fuddsoddi Cyfiawnder’, tirwedd newidiol plismona, terfysgoedd dinas 2011 a pholisi cyffuriau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bu’n canu yng Nghôr y Senedd a hefyd yn cadeirio’r Grŵp Hollbleidiol ar gyfer Cymdeithas Sifil, y Grŵp Hollbleidiol ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol, y Fforwm TGCh Seneddol a Fforwm Llywodraethu Rhyngrwyd y DU, gan gyfrannu at drafodaeth ryngwladol am lywodraethu ar y rhyngrwyd a throseddau ar-lein.
Bu’n ymwneud â nifer o fentrau rhyngwladol. Arweiniodd Ddirprwyaeth Seneddol y DU i gynhadledd driphlyg UDA-Yr Almaen-DU ym Merlin yn 2001. Fel un o dri uwch gynrychiolydd, roedd yn ymwneud â cheisio ateb datganoli i broblemau Moldofa gyda’i dalaith sydd wedi torri’n rhydd, Transnistria, a gefnogir gan Rwsia, ac archwilio problemau TB ac HIV yn Ne Affrica fel Cyd-Gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol ar Iechyd Byd-eang. Arweiniodd Ddirprwyaeth Seneddol i Somaliland ac Ethiopia i archwilio materion yn ymwneud â chydnabyddiaeth ac annibyniaeth i Somaliland. Roedd yn aelod o Ddirprwyaeth Seneddol arbenigol i astudio arweinyddiaeth yr heddlu yn UDA. A rhwng 2006 a 2012 arweiniodd ddirprwyaethau’r DU i Fforwm Llywodraethu Rhyngrwyd blynyddol y Cenhedloedd Unedig.
Yn 2012, ar ôl 25 mlynedd fel Aelod Seneddol Llafur a Chydweithredol De Caerdydd a Phenarth, ymddiswyddodd i gystadlu yn etholiad cyntaf Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn 2012. Fel Comisiynydd De Cymru, y llinyn euraid sy’n rhedeg drwy ei arweinyddiaeth yw cydweithredu a phartneriaeth rhwng asiantaethau cyhoeddus: mae’n credu’n gryf na all unrhyw asiantaeth lwyddo ar ei phen ei hun a dyfynnodd y Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder ar Ail-fuddsoddi Cyfiawnder oedd yn dangos nad yw’r ysgogiadau sy’n dylanwadu ar lefelau troseddu yn ymwneud â phlismona’n unig na’r System Cyfiawnder Troseddol yn gyffredinol, ond yn ymwneud ag amrywiaeth o asiantaethau gan gynnwys addysg, iechyd a llywodraeth leol. Mae wedi ysgrifennu erthyglau cyhoeddedig ar y pwnc yn argymell “dull Iechyd y Cyhoedd o leihau Troseddu” ac mae wedi rhoi damcaniaeth ar waith, gan hyrwyddo partneriaeth gref rhwng Plismona ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i fynd i’r afael â heriau fel camddefnyddio sylweddau ac effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Mae’n eiriolwr hirsefydlog dros ddatganoli’r cyfrifoldeb dros blismona i Gymru, nid fel dull ymneilltuol ond oherwydd y rôl allweddol sy’n cael ei chwarae gan asiantaethau a gwasanaethau datganoledig fel partneriaid gyda’r heddlu. Yn eiriolwr gydol oes o’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol, mae ef a’r Prif Gwnstabl wedi arwyddo cytundeb gyda’r Sector yn Ne Cymru.
Mae’n ystyried Cynllun yr Heddlu a Throseddu ar gyfer 2021-2025, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020 ac a gymeradwywyd gan Banel Heddlu a Throseddu De Cymru, fel y cam diweddaraf sy’n adeiladu ar wyth mlynedd o welliant a newid drwy waith dwys o adeiladu partneriaethau tra’n ymdopi â’r toriadau dwfn yng Ngrant yr Heddlu gan y Swyddfa Gartref. Datblygwyd y Cynllun mewn partneriaeth agos â’r Prif Gwnstabl ac mae’n adlewyrchu natur partneriaeth â’r saith awdurdod lleol yn Ne Cymru, gyda Llywodraeth Cymru, gyda’r Gwasanaeth Iechyd a gydag asiantaethau cyhoeddus eraill.
Dros y 12 mis diwethaf mae effaith COVID-19 wedi bod yn enfawr, ond manteisiwyd arno hefyd fel cyfle i Blismona yng Nghymru weithio mewn partneriaeth agosach fyth â phartneriaid Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol. Ar ôl gostyngiad yn y galw ar yr heddlu yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, daeth y galw yn ôl i lefelau cyn COVID yn fuan gyda chyfres o heriau sylweddol o ran annog y cyhoedd i ddilyn y rheoliadau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. “Dywedodd gwyddonwyr ymddygiadol wrthym y byddai parhau i gydymffurfio â chyfyngiadau yn heriol ar ôl yr ychydig fisoedd cyntaf ond ar ôl mwy na blwyddyn – er bod pobl yn awyddus iawn i ddychwelyd i’r arfer – mae’r rhan fwyaf o’r cyhoedd wedi cydnabod yr angen i fod yn amyneddgar ac rwy’n llawn edmygedd o’r ffordd gytbwys a synhwyrol y mae ein swyddogion heddlu a’n staff wedi ymgysylltu â’r cyhoedd, wedi dangos synnwyr a hiwmor da ac wedi parhau i ddelio â’r myrdd o alwadau maen nhw’n eu hwynebu bob dydd o’r wythnos. Mae yna rai sydd wedi dewis anwybyddu’r rheolau a lle bo angen mae gorfodaeth wedi cael ei dilyn heb ofn na ffafr – ond mae’n deyrnged i’r berthynas rhwng heddlu De Cymru a’u cyhoedd bod y rhan fwyaf o’r cyhoedd wedi dangos hunanddisgyblaeth a hiwmor da.”
Yn benodol, mae wedi chwarae rhan flaenllaw mewn gwaith ar y cyd rhwng yr holl asiantaethau yn y System Cyfiawnder Troseddol sy’n gweithio yng Nghymru – i ailagor llysoedd i ddechrau – sydd wedi arwain at raglen uchelgeisiol ar y cyd i sicrhau cyfiawnder yng Nghymru. Dilynwyd “Datganiad o Ddiben” y cytunwyd arno gan waith manwl ar y cyd ar flaenoriaethau y cytunwyd arnynt gan gynnwys anghenion dioddefwyr a thystion yn ogystal â ffocws ar droseddwyr.
Mae’n credu, wrth i ni ddod allan o’r Pandemig, y bydd y tair blynedd nesaf yn galluogi Heddlu De Cymru i adeiladu’n solet ar y sylfeini cadarn hyn, gan barhau â’r berthynas rhwng “cydweithredu a her gydfuddiannol” rhwng ei dîm a thîm y prif gwnstabl. Mae’n credu fod dull gweithredu Gweinidogion Llafur Cymru wedi annog y dull cydweithredol tra bod Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru wedi galluogi dull gweithredu ar y cyd i ymdrin â materion o bwys gan gynnwys cam-drin domestig, camddefnyddio sylweddau, alcohol, trais ar y stryd ac iechyd meddwl. Ac mae wedi canmol y ffaith bod Gweinidogion Llafur Cymru wedi cyflawni eu hymrwymiad maniffesto i ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol ledled Cymru – 206 ohonynt ar gyfer De Cymru – gydag addewid o 100 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu eraill os bydd Llafur Cymru yn ffurfio’r Llywodraeth ar ôl mis Mai 2021.
Darllenwch addunedau Alun os caiff ei ailethol yn Gomisiynydd
Dysgwch fwy am bolisïau Alun a’i hanes
Mae tudalen we swyddogol Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yma:
www.southwalescommissioner.org.uk
Darganfyddwch beth sydd gan rai o’r bobl sy’n cefnogi Alun i’w ddweud yma.
Datganiad ar y cyd gan Alun Michael ac Emma Wools yn dilyn marwolaeth George Floyd
Cefnogir Alun gan Lafur Cymru a’r Blaid Gydweithredol.
[CAT1]Dolen Gymraeg yma pan fydd yn barod (Election Statement)
Yr un fath ar gyfer dolenni i wefan Alun drwy’r ddogfen.