
Alun Michael yn creu cysylltiadau lleol gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC, cyn Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid, Yvette Cooper AS (ar y chwith) a’r Cynghorydd Lynda Thorne (ar y dde)
Gwneud De Cymru’n Fwy Diogel
Wedi tair blynedd llwyddiannus fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, mae Alun Michael wedi’i ddewis fel ymgeisydd Llafur a’r Blaid Gydweithredol ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu ar 5 Mai 2016.
Mae Alun wedi defnyddio ei brofiad helaeth i arwain Heddlu De Cymru trwy gyfnod heriol iawn – yn sgil toriadau dwfn a fynnwyd gan y Llywodraeth Ganolog – ac mae wedi gweithio’n agos gyda’r Prif Gwnstabl a’i dîm i greu cynghreiriau pwerus â’r gwasanaeth iechyd, y saith awdurdod lleol yn Ne Cymru, a grwpiau gwirfoddol a chymunedol i wneud cymunedau De Cymru’n ddiogel.
Mae’r dull partneriaeth hwn, sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn, yn dwyn ffrwyth i bobl De Cymru erbyn hyn, gyda mentrau sy’n helpu i leihau trais yn erbyn menywod a merched, ymyrryd yn gyflym gyda throseddwyr ifanc a menywod sy’n troseddu i’w hatal rhag aildroseddu, a phwyslais ar ddiogelu pobl agored i niwed a chynorthwyo dioddefwyr.
Mae ei fentrau’n helpu gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd : mae’r Pwynt Cymorth a sefydlwyd i helpu i atal niwed i bobl ar nosweithiau allan yn Abertawe wedi arbed tua 1,300 o deithiau ambiwlans mewn blwyddyn yn ogystal â nifer tebyg o dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, gan alluogi heddweision i aros ar y strydoedd i gynnal heddwch yn lle gofalu am bobl agored i niwed. Mae wedi canmol gwaith myfyrwyr gwirfoddol a St John Cymru, y mae eu gwaith wedi helpu i wneud Abertawe’n adnabyddus am fod yn lle diogel i fwynhau noson allan.
Mae profiad Alun yn berthnasol iawn :
- Ar ôl ei yrfa gyntaf fel newyddiadurwr, bu’n weithiwr ieuenctid yng Nghaerdydd am 15 mlynedd, gan weithio gyda throseddwyr ifanc a phobl ifanc ddi-waith yn ogystal â chadeirio’r Llys Ynadon Ieuenctid ar gyfer y Ddinas a bod yn aelod blaenllaw o Gyngor Dinas Caerdydd.
- Ym 1987, olynodd Jim Callaghan fel AS De Caerdydd a Phenarth. Yn ystod 25 mlynedd fel AS, gwasanaethodd fel Gweinidog Plismona a Dirprwy Ysgrifennydd Cartref, ymunodd â’r Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yna daeth yn Brif Weinidog cyntaf Cymru.
- Yn ddiweddarach, fe’i penodwyd yn Weinidog Gwladol dros Faterion Gwledig, yn gyfrifol am Barciau Cenedlaethol, a chyflwynodd y Ddeddf Hela i roi terfyn ar y creulondeb sy’n gysylltiedig â hela gyda chŵn, a gweithredu’r “Hawl i Grwydro”. Fel Gweinidog Gwladol dros Ddiwydiant a’r Rhanbarthau, hyrwyddodd ddatblygu rhanbarthol a chyflawnodd rôl arweiniol yn Uwchgynhadledd y Byd ar y Gymdeithas Wybodaeth.
- Ar ôl gadael y Llywodraeth, cyflawnodd rôl weithredol ar y Pwyllgor Dethol Cyfiawnder, y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig a’r Pwyllgor Dethol Materion Cartref, yn ogystal â nifer o Grwpiau Hollbleidiol.
- Pan greodd y Llywodraeth rôl y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, roedd Alun yn pryderu am yr effaith ar blismona yn Ne Cymru. Felly, ymddiswyddodd fel AS i gystadlu am yr etholiad cyntaf yn 2012 – yn benderfynol o ddarparu cefnogaeth gref i’r heddlu ar hyd y cyfnod o doriadau llym a fygythiwyd ar yr un pryd â chreu amgylchedd o gydweithredu a phartneriaeth i leihau trosedd ac anhrefn yn Ne Cymru. Mae wedi gwneud rôl y Comisiynydd yn bwerdy ar gyfer diogelwch cymunedol, cydweithredu a chyfiawnder cymdeithasol.Mae ei chwe addewid eglur i bobl De Cymru yn datgan ei fwriadau os caiff ei ailethol ar 5 Mai.
-
Fy Addewidion i Chi
- Wedi tair blynedd fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae Alun wedi creu sylfeini cadarn ac wedi amlinellu gweledigaeth eglur ar gyfer y dyfodol yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2016.
- Lleihau troseddu mewn cydweithrediad â phob asiantaeth gyhoeddus
- Gwneud eich cymunedau’n fwy diogel trwy gadw plismona’n lleol
- Diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau
- Gwario eich arian yn ddoeth i ddiogelu eich tîm heddlu lleol
- Herio’r system cyfiawnder troseddol i fodloni anghenion dioddefwyr
- Chwarae rhan yn genedlaethol ac wrth fynd i’r afael â bygythiadau ar-lein
- Mae manylion am sut y bydd yr addewidion hyn yn cael eu cyflawni, mewn cydweithrediad â’r Prif Gwnstabl a heddweision gweithredol yn ogystal â phartneriaid yn y gwasanaeth iechyd a chynghorau lleol a chymunedau ledled De Cymru, wedi’u hegluro’n fanwl yn y Cynllun Heddlu a Throseddu a gyhoeddodd Alun ym mis Ionawr.
- Alun yn lansio ei ymgyrch ailethol ym Merthyr gyda Dawn Bowden, Swyddog Gwasanaeth Iechyd ar gyfer Unsain yng Nghymru, sydd wedi croesawu ei ymrwymiad i staff ac i gydweithio a gweithredu ar y cyd â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Ne Cymru
-
Cadw addewidion – Eich cadw chi’n ddiogel
- Wrth sôn am ei brofiad a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywed Alun ……….
- Rydw i wedi treulio fy mywyd gweithio cyfan yn Ne Cymru : Dechreuais fy ngyrfa fel newyddiadurwr, ac yna fel gweithiwr ieuenctid a chynghorydd dinas yng Nghaerdydd, cyn gwasanaethu fel AS ar gyfer De Caerdydd a Phenarth am 25 mlynedd.
- Yr hyn sydd wrth wraidd fy naliadau gwleidyddol yw gwneud cymunedau lleol yn fwy grymus. Fy mhrofiad o weithio gyda throseddwyr ifanc a phobl ifanc ddi-waith oedd wedi fy arwain at wleidyddiaeth.
- Mae gen i brofiad helaeth o faterion plismona. Fel Dirprwy i Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, datblygais bolisïau Llafur ar Gyfiawnder Ieuenctid, Plismona, Partneriaethau Lleihau Troseddau a’r Sector Gwirfoddol. Ym 1997, deuthum yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref, a sefydlais bartneriaethau lleihau troseddau lleol, timau troseddau ieuenctid, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Fel aelod o’r Pwyllgor Dethol Materion Cartref, cyfrannais at gyfres o adroddiadau ar faterion plismona ac ymchwiliad mawr i derfysgoedd mis Awst 2011. Roeddwn hefyd yn aelod o’r ddirprwyaeth arbenigol i archwilio troseddau cysylltiedig â gangiau, radicaleiddio a phenaethiaid heddlu etholedig yn Los Angeles yn 2011.
- Rydw i bob amser yn edrych i’r dyfodol. Mae’n cymryd amser i greu amgylchedd lle y gall partneriaeth a chydweithrediad ffynnu, ond rydw i wedi cael cydweithrediad arbennig gan arweinwyr Llafur mewn llywodraeth leol yn ogystal â’u swyddogion proffesiynol a chan y Gwasanaeth Iechyd a llawer o bobl eraill, yn enwedig heddweision, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) ac amrywiaeth o staff yn Heddlu De Cymru. Bydd yn parhau i fod yn anodd, ond rwy’n hyderus y gallwn ni barhau i sbarduno agenda lleihau troseddu, cynyddu diogelwch cyhoeddus, diogelu pobl agored i niwed a gwneud ardal gyfan De Cymru yn lle gwell fyth i fyw ynddo.
- Nid bwriad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yw bod yn heddwas – mae’r Comisiynydd yn dibynnu ar sgiliau plismona’r Prif Gwnstabl a heddweision o bob rheng ar draws De Cymru. Rôl y Comisiynydd yw rhoi llais i gymunedau De Cymru, deall anghenion lleol ac effaith troseddu ar bobl agored i niwed, a bod â gweledigaeth strategol ar gyfer yr hyn y mae angen ei wneud i gadw ein cymunedau’n ddiogel. Credaf fy mod wedi dangos y nodweddion hyn ar yr un pryd ag amddiffyn heddweision a staff rhag effaith waethaf toriadau’r Llywodraeth Ganolog a chreu partneriaethau â Llywodraeth Cymru a’i hasiantaethau, yn ogystal â llywodraeth leol a grwpiau gwirfoddol a chymunedol, i wneud De Cymru’n fwy diogel. Mae sylfeini cadarn wedi’u gosod ar gyfer llwyddiant a datblygiadau cadarnhaol yn ystod y pedair blynedd nesaf, a dyna pam rydw i’n ceisio cael fy ailethol ar 5 Mai 2016.
- Alun yn ymgyrchu yn Butetown, lle y bu’n weithiwr ieuenctid ar un adeg, ynghyd â’r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething (ar y chwith) a’r cynghorydd lleol, Ali Ahmed.
Alun gyda’i olynydd fel AS De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty
Dywed Alun : Fel y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer De Cymru ers 2012, rydw i wedi rhoi blaenoriaeth i …….
- leihau trosedd ac anhrefn,
- lleddfu’r pwysau ar yr heddlu yn ystod adeg o doriadau dwfn
- a sicrhau ein bod ni’n diogelu’r bobl agored i niwed yn ein cymunedau.
Mae llwyddiannau yn ystod y tair blynedd diwethaf yn cynnwys ……..
- Datblygu dull plismona sy’n canolbwyntio ar gydweithredu – gweithio gyda’r Prif Gwnstabl a’r tîm gweithredol i greu Cynllun Heddlu a Throseddu sy’n ymarferol ac yn effeithiol.
- Agosáu at ein cymunedau. Rhoddodd Arolygiaeth yr Heddlu glod i Heddlu De Cymru yn ddiweddar am fod yn “Eithriadol” wrth ymateb i’w gymunedau.
- Mae rhai heddluoedd yn Lloegr wedi camu’n ôl oddi wrth blismona cymdogaeth, ond rydym ni wedi defnyddio’r 205 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i nesáu at y rhai hynny rydym ni’n eu gwasanaethu.
- Datblygu ffyrdd o “ymyrryd yn gynnar a chymryd camau cadarnhaol yn gyflym” i ymdrin â bygythiadau a throseddau. Mae cefnogi’r Prosiect Braenaru ar gyfer Menywod yng Nghaerdydd a datblygu ail fenter ym Merthyr a Rhondda Cynon Taf yn helpu menywod i osgoi cael eu dal yn y cylch troseddu sydd wedi difetha cynifer o fywydau.
- Llofnodi cytundeb ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r materion mawr sy’n niweidio bywydau unigol ac yn rhoi pwysau ar y GIG a Heddlu De Cymru – gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, trais, cam-drin domestig, alcohol, ac iechyd meddwl.
- Gweithio’n agos gyda phob un o’n saith awdurdod lleol – cyfarfod â phob Arweinydd a Phrif Weithredwr unwaith bob tri mis i benderfynu ar gamau gweithredu ar y cyd, a chyfarfod â chynghorwyr ar draws y pleidiau gwleidyddol i glywed am faterion lleol.
- Gwneud yr hyn y gallaf i wrthbwyso effaith toriadau llym i gyllid yr heddlu gan y Llywodraeth Ganolog – gan ddefnyddio’r praesept lleol i ddiogelu swyddi heddweision, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a staff eraill cyn belled ag y bo’n bosibl.
Ym mis Ionawr, cyhoeddais Gynllun Heddlu a Throseddu newydd sy’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf – gan ychwanegu at y themâu cydweithrediad a phartneriaeth a’r egwyddorion “ymyrryd yn gynnar a chymryd camau gweithredu cadarnhaol yn gyflym”. Os caf fy ailethol ar 5 Mai, byddaf yn ymroi i gyflawni’r weledigaeth a amlinellwyd yn y ddogfen honno.
I gael rhagor o fanylion, gweler …………
Cysylltwch efo Alun trwy anfon ebost i cyswllt@alunmichael.cymru
Cliciwch yma am wefan swyddogol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru.