Rwyf yn benderfynol o sicrhau mai De Cymru yw’r lle gorau i fyw a gweithio, ar ôl dangos yr ymrwymiad a’r arweinyddiaeth i sicrhau bod gan Dde Cymru y gwasanaeth heddlu gorau posibl tra’n atal troseddu a niwed lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Ein gwasanaeth heddlu ni yw un o’r rhai sy’n perfformio orau yng Nghymru a Lloegr – er gwaethaf toriadau sylweddol i Grant yr Heddlu gan Lywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan. Rwyf wedi diogelu plismona’r gymdogaeth – gan fanteisio i’r eithaf ar y PCSO ychwanegol a ariennir gan Lywodraeth Llafur Cymru – tra’n arwain arloesedd wrth fynd i’r afael ag achosion troseddu, fel camddefnyddio sylweddau, trawma a thrais yn ystod plentyndod.
Mae cam-drin a thrais domestig yn niweidio cymunedau – felly yn ogystal â chynorthwyo dioddefwyr, rwyf wedi buddsoddi mewn herio tramgwyddwyr trwy raglen Drive, sydd yn lleihau trais a niwed mewn teuluoedd.
Rwyf wedi datblygu tîm cryf ac wedi sicrhau bod gan ein heddlu yr adnoddau sydd eu hangen arnynt. Rwyf yn benderfynol o gynyddu ein gwaith ataliaeth ac ymyrraeth gynnar i gyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throseddu.
Cydweithredu yw’r elfen hanfodol – felly rwyf yn gwrando ar safbwyntiau pobl, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni yn y ffordd orau i’n cymunedau. Mae ein swyddogion a’n PCSO wedi gweithio gyda phobl ar draws De Cymru trwy gydol COVID-19, ac rwyf wedi gweithio gyda Gweinidogion Llafur Cymru, Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Gwirfoddol – i gynnal plismona lleol tra’n bodloni galw cynyddol.
Rwyf yn gweithio’n galed i ymgysylltu a bodloni anghenion ein holl gymunedau amrywiol. Rwyf yn gweithio ar draws y System Cyfiawnder Troseddol i sicrhau bod troseddwyr yn dod o flaen eu gwell mor gyflym ac effeithiol â phosibl. Mae gennyf enw da yn cyflawni, rwyf yn angerddol dros atal troseddu a chynyddu’r gwaith gyda’r tîm arwain yr wyf wedi ei sefydlu. Rwyf eisiau i bob cymuned yn Ne Cymru fod yn ddiogel.
Darllenwch addunedau Alun os caiff ei ailethol yn Gomisiynydd
Dysgwch fwy am bolisïau Alun a’i hanes
Mae tudalen we swyddogol Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yma.
Datganiad ar y cyd gan Alun Michael ac Emma Wools yn dilyn marwolaeth George Floyd
Darganfyddwch beth sydd gan rai o’r bobl sy’n cefnogi Alun i’w ddweud yma.
Cefnogir Alun gan Lafur Cymru a’r Blaid Gydweithredol.