Ymatebodd Alun Michael i farwolaeth George Floyd gyda datganiad pwerus wedi’i wneud ar y cyd â’i Ddirprwy, Emma Wools, sef y fenyw ddu uchaf ym maes plismona yng Nghymru.

Mae sefyll dros egwyddorion sylfaenol dynoliaeth a democratiaeth – a gwerthoedd craidd Plismona – wrth wraidd rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mae’r gwerthoedd craidd hynny’n ymwneud ag union natur plismona democrataidd – mai’r heddlu yw’r gymuned a’r gymuned yw’r heddlu ac mai cyfrifoldeb cyntaf yr heddlu yw atal troseddu, nid dim ond bod yn rym i ymateb pan fydd pethau drwg yn digwydd.
Bydd angen bob amser i’r heddlu yn arbennig, yn ogystal â chymdeithas yn gyffredinol, i ymateb i droseddu a mynd i’r afael â thrais a chamfanteisio, ond mae’n hanfodol eu bod yn gwneud hynny fel rhan o gymdeithas ac nid fel math o rym allanol neu rym sy’n meddiannu. Pan fydd hynny’n digwydd, mae eu hawdurdod wedi’i golli ond mae’n hanfodol i’r heddlu fod yn “heddlu’r cyhoedd” ac nid “heddlu’r wladwriaeth”.
Yr egwyddorion hynny yw’r rhai rydym yn eu rhoi ar waith yn yr ardal y mae gennym gyfrifoldeb drosti ond maen nhw’n egwyddorion y mae’n rhaid eu rhoi ar waith ym mhob cymuned, ym mhob gwlad a bob amser. Rhaid i hiliaeth ac unrhyw argraff bod llai o bwys ar rai bywydau nag eraill gael eu gwaredu ym mhobman ac wrth wneud yr ymrwymiad i chwarae ein rhan yn lleol rydym yn sefyll gyda’r rhai sy’n galw’n rhyngwladol am roi terfyn ar hiliaeth ac sy’n atgoffa’r byd bod Bywydau Du o Bwys.
Gwnaeth y datganiad pwerus a wnaed gan ein Gweinidog Iechyd ein hunain Vaughan Gething ar ran Llywodraeth Cymru argraff fawr arnom mewn ymateb i farwolaeth George Floyd a digwyddiadau dilynol yn America yn ogystal â’r pryderon yma yng Nghymru, ac rydym yn cefnogi ei ddatganiad yn gryf fel un sy’n adlewyrchu’n llawn yr egwyddorion a’r dyheadau sydd gennym yng Nghymru.
Ynghyd â’r Prif Gwnstabl a’r Dirprwy Brif Gwnstabl, fe wnaethant gyfarfod ag amrywiaeth o arweinwyr o gymunedau ledled De Cymru, gan weld yr arddangosiadau a’r ymateb yn fwy eang fel cyfle i adfywio a hyrwyddo ymgyrchu ynghylch cydraddoldeb hiliol yn Ne Cymru ac yng Nghymru yn ehangach.
Mae Plismona yng Nghymru, y mae Alun Michael yn ei gadeirio ar hyn o bryd, a Chyfiawnder Troseddol yng Nghymru, wedi ymateb yn ffurfiol i ddatblygiad Llywodraeth Cymru o bolisi ar gydraddoldeb hiliol drwy fynegi dymuniad i ymuno mewn dull “un gwasanaeth cyhoeddus” o ymdrin â chydraddoldeb hiliol yng Nghymru.
Mae Alun wedi pwyso am recriwtio mwy o unigolion o gymunedau Du ac Asiaidd gan Heddlu De Cymru ac er y bu datblygiadau sylweddol mae wedi parhau i fonitro cynnydd a phwyso am fwy o weithredu a recriwtio cyflymach o ran recriwtio Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu.
Cefnogodd yn gryf y cynnig gan Arweinydd Cyngor Caerdydd ar gyfer Tasglu ar Gydraddoldeb Hiliol ac mae Dirprwy Gomisiynydd Alun, Emma Wools, wedi’i phenodi’n aelod o’r Tasglu hwnnw ac wedi derbyn y prif gyfrifoldeb am ei ddull gweithredu tuag at Gyfiawnder Troseddol, un o’r pum maes gweithredu a nodwyd gan y tasglu sy’n cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Saeed Ebrahim.
Darllenwch addewidion Alun os caiff ei ailethol yn Gomisiynydd
Dysgwch fwy am bolisïau Alun a’i hanes
Mae tudalen we swyddogol Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yma.
Darganfyddwch beth sydd gan rai o’r bobl sy’n cefnogi Alun i’w ddweud yma.
Cefnogir Alun gan Lafur Cymru a’r Blaid Gydweithredol.