Vaughan Gething, Aelod o’r Senedd Dros Dde Caerdydd a Phenarth a’r Gweinidog Iechyd

“Mae hanes Alun yn siarad drosto’i hun am gydraddoldeb ac amrywiaeth. Fel ein Comisiynydd Heddlu a Throseddu mae wedi cyflymu’r broses o recriwtio swyddogion yr heddlu a staff o’n cymunedau BAME, er mwyn sicrhau bod Heddlu De Cymru yn cynrychioli’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Rwy’n falch o gefnogi Alun i barhau fel ein Comisiynydd Heddlu a Throseddu Llafur a Chydweithredol ar gyfer De Cymru.“
Stephen Doughty, Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth

“Mae gwaith Alun fel ein Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi bod yn wych. Er gwaethaf cyni’r Torïaid a thoriadau i grant yr heddlu, mae Alun wedi llwyddo i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y Swyddogion Cymorth Cymunedol ar draws y rhanbarth. Dyna pam rwy’n cefnogi Alun i gael ei ailethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Llafur a Chydweithredol De Cymru.”
Dawn Bowden, Aelod o’r Senedd dros Ferthyr Tudful a Rhymni

“Mae gwaith Alun i helpu i fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched yn wych. Mae wedi gweithio ar draws rhanbarth De Cymru i sicrhau bod mynd i’r afael â’r mater hollbwysig hwn yn ganolog i flaenoriaethau Heddlu De Cymru. Rwy’n falch o’i gefnogi fel ein hymgeisydd i frwydro yn erbyn y Torïaid.”
Gerald Jones, Aelod Seneddol Merthyr Tudful a Rhymni
“Mae pobl Merthyr a Rhymni yn gwybod bod Heddlu De Cymru yn ddiogel yn nwylo Alun Michael. Rydyn ni angen ymgeisydd cryf a phrofiadol i fynd i’r afael â’r Torïaid yn uniongyrchol. Mae profiad Alun, ei ymrwymiad a’i record yn dangos mai ef yw’r ymgeisydd rydyn ni ei angen. Rwy’n falch iawn o gefnogi Alun fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Llafur Cymru ar gyfer De Cymru.”
Tonia Antoniazzi, Aelod Seneddol Gŵyr
“Rwy’n falch o gefnogi Alun fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Mae ei waith i leihau aflonyddu rhywiol a thrais yn erbyn menywod a merched ar draws y rhanbarth dros y 6 blynedd diwethaf wedi bod yn drawsnewidiol. Rydyn ni angen ymgeisydd cryf a phrofiadol i drechu’r Torïaid, dyna pam rwy’n cefnogi Alun.”
Rebecca Evans, Aelod o’r Senedd dros Benrhyn Gŵyr a’r Gweinidog Cyllid
“Ers i’r Torïaid gyflwyno eu polisi ideolegol o gyni, mae ein gwasanaethau cyhoeddus wedi bod dan fygythiad. Fel ein Comisiynydd Heddlu a Throseddu Llafur, mae Alun wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn cynyddu nifer swyddogion yr Heddlu ar draws rhanbarth De Cymru. Rwy’n falch ein bod wedi llwyddo i wneud hynny, ond er mwyn parhau â’r frwydr yn erbyn cyni, mae angen ymgeisydd cryf a chymwys arnom i sicrhau ein bod yn trechu’r Torïaid.”
Anna McMorrin, Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd
“Mae gwaith Alun i fynd i’r afael â phoendod Trais yn erbyn Menywod a Merched wedi bod yn rhagorol. Mae wedi sicrhau bod Heddlu De Cymru yn gwneud mynd i’r afael â’r broblem hon yn brif flaenoriaeth iddynt. Dyna pam rwy’n falch o gefnogi Alun fel ymgeisydd Llafur a Chydweithredol Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.“
Kevin Brennan, Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd
“Rwy’n falch iawn o gefnogi Alun Michael fel ymgeisydd Llafur a Chydweithredol Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Mae gwaith Alun dros yr wyth mlynedd diwethaf wedi bod yn wych, gan weithio ar draws cymunedau i sicrhau bod ein gwerthoedd Llafur wrth wraidd yr hyn y mae Heddlu De Cymru yn ei wneud.
Julie James, Aelod o’r Senedd dros Orllewin Abertawe a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
“Mae gwaith Alun i ddatblygu’r ‘Pwynt Cymorth’ yn Abertawe gydag Ambiwlans Sant Ioan wedi bod yn chwyldroadol. Mae’r prosiect wedi arbed amser ac arian gwerthfawr i’r heddlu a’r GIG yn ogystal â sicrhau ein bod yn amddiffyn pobl sy’n agored i niwed. Profiad Alun, ei ymrwymiad a’i arweinyddiaeth yw’r union beth rydyn ni ei angen i drechu’r Torïaid yn yr etholiadau hyn.”
Huw Irranca-Davies, Aelod o’r Senedd dros Gastell-nedd
“Rwyf yn adnabod Alun ac wedi gweithio’n agos gydag ef ers bron i ddau ddegawd fel AS ac AC. Mae record Alun a’i ymrwymiad i fynd i’r afael â throseddu wedi bod yn ddiwyro drwy’r amser yr wyf wedi’i adnabod. Mae ei brofiad heb ei ail a dyna pam rwy’n credu mai ef yw’r person cywir i barhau i arwain Heddlu De Cymru fel Comisiynydd.“
Christina Rees, Aelod Seneddol Castell-nedd
“Mae record Alun o flaenoriaethu mynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws De Cymru yn wych. Mae wedi gweithio’n agos gyda mi a chydweithwyr yn San Steffan, i sicrhau bod gan Heddlu De Cymru yr adnoddau a’r gefnogaeth maen nhw eu hangen i fynd i’r afael â’r materion maen nhw’n eu hwynebu bob dydd.“
Darllenwch addunedau Alun os caiff ei ailethol yn Gomisiynydd
Dysgwch fwy am bolisïau Alun a’i hanes
Mae tudalen we swyddogol Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yma.
Datganiad ar y cyd gan Alun Michael ac Emma Wools yn dilyn marwolaeth George Floyd
Cefnogir Alun gan Lafur Cymru a’r Blaid Gydweithredol.